Casgliad IONA

Mae’r gemwaith o arian pur yn waith llaw unigryw. O ran y broses o greu’r gemwaith rwy’n defnyddio clai o fetal arian drudfawr i lenwi’r moldiau cregin ac yna ei danio ar dymheredd uchel cyn iddo droi’n yn arian pur.

Gemwaith o dri ‘Chasgliad’ sydd ar werth
• Casgliad Dwynwen o Landdwyn ar Ynys Mon
• Casgliad Cantre’r Gwaelod gyda deunydd crai o’r Borth ac Ynys-Las Ceredigion
• Casgliad Llanbedrog o’r traeth hyfryd ym Mhenllyn

Yn ogystal a’r uchod bydd un casgliad arbennig ar gyger Nadolig ar werth sef Casgliad ‘Y Plu Eira’.
Noder os gwelwch yn dda.
Gan fod pob un darn yn ‘waith llaw’ ni fydd y darnau a welir yma yn gwmws union
yr un peth a’r rhai hynny yn y lluniau.



HAFAN ARCHEBU CEFNDIRCYSYLLTU